

Mewn lle uchel yn edrych dros bentref bychan Llanbedrgoch a'r cyffiniau, mae safle San Pedr yn cynnwys tystiolaeth o bresenoldeb a chladdedigaethau Brythonig-Rufeinig, er bod yr adeilad presennol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol gydag estyniadau ac adnewyddiadau dilynol dros y canrifoedd. Mae ganddi gynulleidfa fechan ond bywiog.
Mae'r Ganolfan yng nghanol y pentref yn ystafell eglwys wedi'i hadnewyddu gyda chyfleusterau modern, sydd bellach yn eiddo i'r gymuned ac yn cael ei defnyddio gan wahanol grwpiau gan gynnwys yr eglwys.



In an elevated position overlooking the small village of Llanbedrgoch and surrounding area, the site of St Peter's Church contains evidence of Romano-British presence and burials, although the present building is late medieval with subsequent extensions and renovations over the centuries. It has a small but vibrant congregation.
Y Ganolfan in the centre of the village is a refurbished church room with modern facilities, now owned by the community and used by various groups including the church.
